Siroedd Cartref
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Home_Counties_%281889_county_borders%29.svg/300px-Home_Counties_%281889_county_borders%29.svg.png)
Enw ar y siroedd hanesyddol yn ne-ddwyrain Lloegr sy'n amgylchynu Llundain yw'r Siroedd Cartref[1] (Saesneg: Home Counties). Gan amlaf mae'n cynnwys Berkshire, Swydd Buckingham, Essex, Swydd Hertford, Caint, Surrey, a Sussex. Weithiau cynhwysir Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Hampshire a Swydd Rydychen.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [home: the Home Counties].